Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

18 Mawrth 2019

SL(5)339 – Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) (Diwygio) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 2007 (O.S. 2007/1948) (“Rheoliadau 2007”) o ganlyniad i adran 41 o Ddeddf Cymru 2017. Daw adran 41 i rym ar 1 Ebrill 2019.

Mae adran 41 yn diwygio adrannau 95 a 96 o Ddeddf Ynni 2004 fel y bydd gan Weinidogion Cymru swyddogaethau mewn perthynas â datgan parthau diogelwch o gwmpas gosodiadau ynni adnewyddadwy alltraeth (sydd â gallu cynhyrchu o hyd at 350 megawat) yn nyfroedd Cymru. Mae'n drosedd i longau ddod i mewn neu aros mewn parth diogelwch oni bai y caniateir iddynt wneud hynny drwy hysbysiad parth diogelwch a ddyroddir gan y Gweinidog priodol (yn nyfroedd Cymru, Gweinidogion Cymru fydd hyn).

Mae Rheoliadau 2007 yn nodi’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi fynd gyda chais parth diogelwch, yn ogystal â’r gofynion gweithdrefnol y mae angen eu bodloni. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer esemptiadau rhag y gwaharddiad ar fynediad i barth diogelwch a gweithgareddau ynddo.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Cymru 2017

Fe’u gwnaed ar: 18 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 20 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2019

 

SL(5)340 – Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ffioedd) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

O 1 Ebrill 2019, Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod priodol mewn perthynas â cheisiadau o dan adrannau 36 a 36A o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”) sy'n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu yn nyfroedd Cymru sydd â chapasiti nad yw'n fwy na 350 megawat.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf 1989 i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Trydan 1989

Fe’u gwnaed ar: 18 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 20 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2019

SL(5)347 – Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“y Gorchymyn Gweithdrefn”).

Mae erthygl 2 yn diwygio erthygl 8 (sy'n ymwneud â chyhoeddi ceisiadau arfaethedig) ac erthygl 12 (sy'n darparu gofynion cyffredinol mewn perthynas â cheisiadau) o'r Gorchymyn Gweithdrefn. Mae’r diwygiadau yn ychwanegu gofynion pan fo datblygiad yn cynnwys gosod mathau penodol o linellau trydan uwchben. Mae’r gofynion yn ymwneud â’r wybodaeth y mae’n rhaid i berson sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ei chyhoeddi, a chynnwys y cais hwnnw.

Mae Atodlenni 1 a 2 yn amnewid y ffurflenni hysbysu yn Atodlenni 1 a 2 i’r Gorchymyn Gweithdrefn er mwyn ystyried y ffaith y caniateir i benderfyniadau ynghylch cydsyniadau sy’n gysylltiedig â datblygu llinellau trydan uwchben penodol gael eu cymryd gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw. 

Mae Atodlen 3 yn diwygio Atodlen 5 i’r Gorchymyn Gweithdrefn i ddiwygio’r gofynion mewn cysylltiad â’r ymgyngoreion arbenigol y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru, o dan erthygl 22 o’r Gorchymyn hwnnw, ymgynghori â hwy cyn rhoi caniatâd cynllunio.

 Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe’u gwnaed ar: 4 Mawrth 2019

Fe’u gosodwyd ar: 5 Mawrth 2019

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2019

SL(5)361 – Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau technegol i'r is-ddeddfwriaeth ganlynol, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru mewn perthynas â monitro a rheoli afiechydon milheintiol a thwbercwlosis:

Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007 (OS 2007/2459)

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (OS 2010/1379)

Diben y diwygiadau hyn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i fod yn weithredadwy ar ôl i'r DU ymadael â'r UE ac y bydd yn ymdrin â diffygion mewn deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o adael yr UE.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Fe’u gwnaed ar: 25 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 27 Chwefror 2019

Yn dod i rym a: rheoliadau 1(2)

 

SL(5)387 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2006 (cyfrifo ffioedd) drwy gynyddu’r ffi gymwysadwy sydd i’w thalu am gwrs o driniaeth Band 1, Band 2 a Band 3.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Fe’u gwnaed ar: 5 Mawrth 2019

Fe’u gosodwyd ar: 6 Mawrth 2019

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2019

SL(5)391 – Rheoliadau Pysgota Môr (Trwyddedau a Hysbysiadau) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â thrwyddedau a roddir mewn perthynas â chychod pysgota Cymreig o dan adrannau 4 a 4A o Ddeddf Pysgota Môr (Cadwraeth) 1967, ac â hysbysiadau sy’n amrywio, yn atal neu’n dirymu trwyddedau o’r fath. Mewn perthynas â’r trwyddedau a’r hysbysiadau hyn, mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Pysgota Môr (Trwyddedau a Hysbysiadau) 1994.

Maent yn darparu ar gyfer y modd y mae trwyddedau o’r fath i gael eu rhoi, eu hamrywio, eu hatal neu eu dirymu, ac ar gyfer yr amser y mae rhoi, amrywio, atal neu ddirymu trwydded i ddod yn effeithiol.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967

Fe’u gwnaed ar: 6 Mawrth 2019

Fe’u gosodwyd ar: 7 Mawrth 2019

Yn dod i rym a: rheoliadau 1(1)

SL(5)371 – Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau drafft hyn yn diwygio Rheoliadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Partneriaeth”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth”) er mwyn ystyried newidiadau i ffiniau byrddau iechyd a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2019.

The draft Regulations amend the Partnership Regulations in order to:

•        Change the partners included in both the Cwm Taf and Western Bay Regional Partnership Board areas to take account of the change to the boundaries of Abertawe Bro Morgannwg and Cwm Taf health boards;

•        Change the names of the regional partnership boards affected by this health board boundary change to reflect the new names of the Swansea Bay and Cwm Taf Morgannwg health boards;

•        Clarify requirements for regional partnership boards to establish regional pooled funds in relation to care home places for older People;

•        Require housing and education representation on regional partnership boards;

•        Clarify when regional partnership boards must produce annual reports.

They also amend the Population Assessments Regulations in order to:

•        Change the partnership arrangements for population assessments to take account of the health board boundary change;

•        Change references to the names of the health boards above to reflect changes to those names as a result of the boundary change. Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: